Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
24 Mawrth 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11188
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg
Dechreuodd yr eitem am 14.30
Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021
Dechreuodd yr eitem am 15.21
NDM7681 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Gorchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021 - Tynnwyd yn ôl
Tynnwyd yr eitem yn ôl
5 Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Dechreuodd yr eitem am 15.25
NDM7678 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1, Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
7 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi
Dechreuodd yr eitem am 15.30
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7668 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i cyflwyno Rheol Sefydlog 26C newydd, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
4 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd
Dechreuodd yr eitem am 15.38
NDM7669 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 21, 26, 26A, 26B, 27 a 30C, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7670 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 6, 7, 8 a 17, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
1 |
4 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
10 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice
Dechreuodd yr eitem am 15.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7671 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 13.15 a 17.28, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
4 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
11 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Adalw'r Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.52
NDM7672 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Adalw’r Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i cyflwyno Rheol Sefydlog 12.3A newydd, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
.
12 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau
Dechreuodd yr eitem am 15.54
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7673 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
6 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
13 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol
Dechreuodd yr eitem am 15.56
NDM7674 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 1, 11 a 20 fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro
Dechreuodd yr eitem am 16.01
NDM7675 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 12 a 34, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi argymhelliad y Pwyllgor Busnes ynghylch defnyddio pleidleisio electronig o bell o dan Reol Sefydlog 34.14A, yn dilyn etholiad y Senedd, gan gynnwys at ddibenion ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
15 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol
Dechreuodd yr eitem am 16.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7676 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 1, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
17 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
16 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad-Adroddiad 05-21
Dechreuodd yr eitem am 16.23
NDM7679 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 05-21 a osodwyd gerbron y Senedd ar 17 Mawrth 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
17 Cynnig i Gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd
Dechreuodd yr eitem am 16.27
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7680 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr Adolygiad o'r Cod Ymddygiad dyddiedig 17 Mawrth 2021 (“yr adroddiad”).
2. Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021, i ddod i rym ar ddechrau'r chweched Senedd.
3. Yn nodi’r canllawiau sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymddygiad a nodir yn atodiad A i’r adroddiad.
Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Yr Adolygiad o'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
5 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
18 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol
Dechreuodd yr eitem am 16.31
NDM7682 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2021.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2021.
Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor
Ymateb Cyllid a Thollau EM i adroddiad y Pwyllgor(Saesneg yn unig)
Llythyr gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys at y Pwyllgor Cyllid (Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
19 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol: y stori hyd yn hyn
Dechreuodd yr eitem am 17.13
NDM7667 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yn hyn', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
20 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Archwilio datganoli darlledu: sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?
Dechreuodd yr eitem am 17.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7666 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Edrych ar ddatganoli darlledu: sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mawrth 2021.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
4 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
21 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Dyfodol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 18.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7683 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith bod llywodraethau olynol Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu â gwella cyfleoedd bywyd pobl Cymru.
2. Yn cydnabod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud o ran yr economi.
3. Yn nodi bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar gyfer ôl-groniadau cyn i'r pandemig ddod i ben.
4. Yn nodi ymhellach bod cyn Brif Weinidog Cymru hefyd wedi cyfaddef bod Llafur wedi tynnu ei llygad oddi ar y bêl ar addysg.
5. Yn cydnabod, er mwyn ailadeiladu Cymru, fod angen newid cyfeiriad a chael llywodraeth newydd ar 6 Mai 2021, a fydd yn darparu cynllun adfer i Gymru, sy'n cynnwys:
BBC News - Theresa May claims Welsh Labour betrayed generation of children - 18 Mai 2018 (Saesneg yn unig)
BBC News - Labour minister: 'We don't know what we're doing on economy' - 25 Mehefin 2019 (Saesneg yn unig)
BBC News- Covid: Cancer delays 'could cause 2,000 deaths in Wales' - 9 Tachwedd 2020 (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
41 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi:
a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;
b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar gyfartaledd;
c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;
d) Ddatgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;
e) Adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r rhai sy’n rhentu.
2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
26 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd Cymru dim ond yn adfer yn llwyr drwy ethol llywodraeth newydd a fydd yn gadael i bobl Cymru, nid San Steffan, benderfynu ar ein dyfodol.
Yn credu bod angen newid cyfeiriad ar Gymru drwy ganiatáu i bobl Cymru ddweud eu dweud ynghylch a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol drwy gynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, er mwyn ailadeiladu Cymru, y dylai'r Senedd nesaf gael pwerau dros faterion sydd wedi'u cadw yn ôl i San Steffan ar hyn o bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni, ac Ystâd y Goron.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7683 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi:
a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;
b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar gyfartaledd;
c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;
d) Ddatgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;
e) Adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r rhai sy’n rhentu.
2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.
Adroddiad Blynyddol Y Rhaglen Lywodraethu
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
22 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.44
NDM7677 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Hosbisau plant - cronfa achub i Gymru.
23 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.07 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 19.15
Crynodeb o Bleidleisiau
24 Datganiadau i Gloi
Dechreuodd yr eitem am 19.24
Daeth y cyfarfod i ben am 19.51